Mae Corff Perfformio Rhyngwladol
mes:a yn gwmni newydd a grewyd i gefnogi tri o artistiaid
annibynnol mwyaf llwyddiannus Cymru: Marc Rees, Eddie Ladd
a Sean Tuan John. Fel mudiad, mae mes:a yn unigryw yng Nghymru
ac yn bwriadu bod yn ddeunydd i artistiaid annibynnol yn y
maes perfformio. Mae'n rhoi help llaw i'r artistiaid drwy
gynnig cymorth ymarferol o'r swyddfa yn Chapter, Caerdydd
ac yn cynnig cefnogaeth strategaeth a datblygiadol hir dymor.
Mae mes:a hefyd yn hyrwyddo a rheoli gwaith yr artistiaid
yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Am ragor o wybodaeth am mes:a cysylltwch
â Siân Thomas, Cynhyrchydd Creadigol. I ddarganfod
mwy am yr artistiaid
unigol, ewch at y gwefannau a
ganlyn am fanylion am eu prosiectau cynt, presennol ac i ddod. |